Preswyliadau
Rydym yn cynnig dau fath o sesiwn preswyl ym Mraich Goch - Enciliadau Lloches ac Arosiadau Strwythuredig.
Enciliadau lloches
Enciliadau Lloches - I lawer ohonom mae’r profiad o geisio lloches neu hyd yn oed gael statws ffoadur yn gallu bod yn drawmatig; yr oriau hir o gyfweliadau lle’r holir yr un cwestiynau mewn nifer o wahanol ffyrdd, y teimlad nad yw’r swyddogion yn eich credu, y frwydr gyson o orfod adrodd eich stori drosodd a throsodd i nifer o bobl nad ydynt am eich credu ac sy’n ceisio eich dal chi allan a’ch galw’n gelwyddgi. Mae hyn oll yn niweidiol i’n cyflwr meddwl, yn creu dryswch a theimlad o unigedd.
​
​ Mae Ymddiriedolaeth Anne Matthews yn sefydliad o bobl o gefndiroedd ffoadurol a mudol yn bennaf sy’n deall ac sydd wedi bod trwy, neu yn mynd trwy, y profiad o geisio Lloches. Dyma pam yr ydym am gynnig ein canolfan a’n harbenigedd i bobl (gyda’r pwyslais ar oedolion ifanc) sydd hefyd yn mynd trwy, neu wedi bod trwy, y profiad hwn.
Yng nghanolfan Braich Goch gallwn gynnig preswyliadau ar gyfer grwpiau o hyd at 20 o bobl. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cerdded y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd hardd gerllaw, nofio mewn afonydd a llynnoedd, ac archwilio arfordir bendigedig Parc Cenedlaethol Eryri.
Yn ystod ein preswyliadau rydym yn coginio, bwyta, dawnsio, canu a chreu cerddoriaeth gyda’n gilydd – yn adennill ein dyngarwch a’n parch, yn dathlu ein gwahaniaethau ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd.
Arosiadau strwythuredig
Arosiadau strwythuredig - Fel arall gall grwpiau gymryd rhan mewn sesiynau mwy strwythuredig, lle rydym yn defnyddio addysgeg feirniadol megis Ymchwil Gweithredu Cyfranogol i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn dysgu er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.
​
Mae gennym brofiad hir o drefnu a hwyluso cyrsiau a gweithdai ar amrywiaeth o bynciau megis addysg boblogaidd, rhyw, theatr y gorthrymedig, ymchwil gweithredu cyfranogol a llawer mwy.
Rydym yn croesawu unigolion a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn sesiynau preswyl dwys i arbrofi gyda theatr a chyfryngau celf cysylltiedig eraill, i siarad â’i gilydd a meddwl gyda’i gilydd, gan weithio ar lefel unigol ond hefyd fel grŵp. Mae’r preswyliadau hyn yn amrywio o ran hyd a chynnwys yn unol ag argaeledd, anghenion ac adnoddau pob cymuned.
Pan fyddant yma mae pobl yn treulio’u hamser yn byw gyda’i gilydd: yn coginio, yn bwyta ac yn gofalu am ei gilydd. Rydym yn defnyddio’r ardaloedd o amgylch i’n hysgogi i greu; trefnir teithiau cerdded trwy gefn gwlad a phentrefi lleol. Dysgwn am hanesion yr ardal leol ac am ei phobl.
Gallwn deilwra sesiynau preswyl yn ôl anghenion y grwpiau sy’n ymweld â ni, felly cysylltwch gan nodi eich anghenion neu’ch syniadau!
Preswyliadau’r gorffennol
See below some past residentials.
Chwiorydd yn hau hadau gwrthsafiad
Mae angen mannau diogel ar fenywod i ymlacio ac adfer, i fod gyda’i gilydd unwaith eto, a chreu cefnogaeth chwaerol. Dyma pam yr ydym eisiau hyrwyddo Braich Goch fel lloches lle gall menywod, yn enwedig rhai o gefndiroedd ffoadurol a mudol, roi’r gorau i fod yn ofalwyr a mwynhau profiad newydd, rhannu lle ac amser gyda menywod eraill, mwynhau teithiau cerdded gwledig, coginio gyda’i gilydd, chwarae, rhannu straeon, iachau ac adfer ein dyngarwch.
CELTA
Labordy Arbrofol Beirniadol Theatr a Chelfyddydau Perfformio
​
Lle i bobl ymwneud yn feirniadol â’r defnydd o ffurfiau celfyddyd perfformio, y theatr yn bennaf. Y prif amcanion yw ymchwilio, deall a herio’r sefyllfa sydd ohoni ynghyd â’i naratif hiliol a rhywiaethol rhagfarnllyd; arbrofi a gweithio ar y cyd i greu darnau perfformio gwreiddiol all gyrraedd cynifer o gynulleidfaoedd â phosib.
CONTACT US
Braich Goch Inn and Bunkhouse, Corris, Machynlleth, Wales, SY20 9RD
​