top of page
Hwb cymunedol
Yn hanesyddol, bu adeilad Braich Goch yn dafarn am nifer o gannoedd o flynyddoedd, gan groesawu pobl leol a theithwyr fel ei gilydd! Heddiw rydym yn datblygu Braich Goch fel hwb cymunedol lle gall pobl o’r gymuned leol wledig a’r grwpiau o ffoaduriaid a mudwyr o ddinasoedd a threfi Cymru a gweddill y DU ddod ynghyd, rhannu diwylliannau, adeiladu perthynas a meithrin dealltwriaeth rhwng cymunedau.
Yn ardal ein bar, rydym yn cynnal digwyddiadau megis ein cyfres Cnoi Cil, cyflwyniadau, digwyddiadau codi arian a gwleddoedd!
Ewch i’n tudalen digwyddiadau i weld beth sydd ymlaen.
bottom of page