top of page
Hands stained with blue paint

FFYRDD O FOD, FFYRDD O WNEUD 

Ysbrydolir Ymddiriedolaeth Anne Matthews gan Highlander Folk School, o Monteagle, Tennessee, a gynigiodd hyfforddiant hanfodol ym Mynyddoedd yr Appalachiaid i drefnwyr yn y symudiad hawliau sifil rhwng 1932 a 1961.

​

Rydym yn ymwybodol iawn os ydym yn ‘dweud y dweud’ ac yn cynnig profiadau addysg hollbwysig i bobl arall, bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn ‘gwneud y gwneud’ hefyd, ac yn gwneud popeth yn ein gallu i ddatblygu sefydliad sydd yn erbyn gormes, o’r gwaelod i fyny.

​

Mae Ffyrdd o Fod, Ffyrdd o Wneud yn ymadrodd yr ydym wedi’i fenthyca o gysyniad Ffyrdd Brodorol o Fod, Gwybod a Gwneud, sy’n derm sy’n cynnwys gwahanol ffyrdd o feddwl, teimlo a chredu sydd y tu allan i gysyniadau modern gwybodaeth.

​

Dan y ffrwd waith hon, rydym yn ymchwilio, yn arbrofi gyda ac yn creu defodau, polisïau ac arferion er mwyn sicrhau ein bod yn ceisio herio gormes yn ein hunain, ein gilydd, ac mewn cymdeithas, ac yn wynebu dynameg grym llechwraidd a etifeddwyd gan system afiach pan fyddant yn sleifio i mewn i’r ffordd yr ydym yn gweithio.

​

Yn y pen draw, dylai ein sesiynau Ffyrdd o Fod, Ffyrdd o Wneud hysbysu popeth a wnawn;  gan gynnwys ein gwaith llywodraethu, ein polisïau AD, ein harferion diogelu, ein cyfarfodydd tîm, ein lleoedd myfyrio, ein glanhau, ein negeseuon e-bost, ein cyflogau, ein strategaethau codi arian, neu ein defodau lles yn gymaint â’r ffordd yr ydym yn cynnal pawb sy’n cerdded trwy’r drws yn y Fraich Goch.

​

Cyn bo hir, mawr obeithiwn y gallwn rannu polisïau gwrth-orthrymol yr ydym wedi’u hysgrifennu, fel y gall sefydliadau eraill gael budd o’n profiad a’n prosesau meddwl.

​

Os hoffech holi mwy am ein Ffyrdd o Fod, Ffyrdd o Wneud, cysylltwch â ni trwy ein Ffurflen Gyswllt.

CONTACT US

Braich Goch Inn and Bunkhouse, Corris, Machynlleth, Wales, SY20 9RD

info@theannematthewstrust.org

01654761256

PayPal ButtonPayPal Button

Thanks for submitting!

bottom of page