Hurio’r Byncws a man cyfarfod
Rydym yn hapus i gynnig llety am isafswm o 2 noson i sefydliadau, cwmnïau a grwpiau cymunedol.
Byncws yw hwn, felly bydd gofyn rhannu’r cyfleusterau.
Cysylltwch i archebu neu i wneud ymholiadau.
Pris
Y pris safonol yw £27 yp/noson. Os bydd gofyn i chi gael un unigolyn (megis ar gyfer teithiau tywys, coginio, ac ati), y pris yw £37 yp/noson. Mae modd llogi tywelion am £2.
Gellir llogi’r adeilad cyfan hefyd (yr holl ystafelloedd gwely, y gegin, y safleoedd cyfarfod a’r bar) am £750 y noson.
Gallwn addasu’r prisiau hyn yn unol â’ch posibiliadau os ydych yn grŵp cymunedol, cysylltwch â ni i drafod y dewisiadau.
Gallwn baratoi dyfynbris hefyd os hoffech gael arhosiad preswyl pwrpasol wedi’i hwyluso. Rydym yn arbenigo mewn hyfforddiant am Waith Ymchwil mewn Gweithredu Cyfranogol, agroecoleg, addysg boblogaidd, y celfyddydau fel offeryn ymholi cymunedol a llawer mwy.
Am y lle
Mae’r Fraich Goch yn dafarn a adeiladwyd 450 o flynyddoedd yn ôl, wedi’i lleoli ym mhentref Corris ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, a 10 munud i ffwrdd yn unig mewn car o dref farchnad brysur Machynlleth. Mae’n ddelfrydol er mwyn cynnig antur ac enciliadau ar gyfer grwpiau, ffrindiau a theulu.
Mae’r lle yn cynnwys:
-
1 ystafell gwelyau bync gydag ystafell ymolchi yn gysylltiedig, sy’n cynnig lle i 6 o bobl.
-
2 ystafell wely ar wahân gydag ystafell ymolchi yn gysylltiedig, sy’n cynnig lle i 4 o bobl ym mhob ystafell.
-
1 ystafell wely gwelyau bync sy’n cynnig lle i 4 o bobl, gydag ystafell ymolchi a thoiled allanol.
-
1 lolfa fawr a rennir ar y llawr gwaelod.
-
1 Cegin gyflawn fawr a rennir.
-
1 lle bwyta mawr.
-
1 lle cymunol mawr er mwyn cynnull, cyfarfod a chynnal perfformiadau.
-
O wneud cais, 1 lle gweithdy.
-
O wneud cais, mae ystafell sychu dillad a chyfleusterau golchi dillad ar gael am ffi fechan, a fyddech gystal â siarad â’r Lletywr.
-
Gardd uwch o flaen yr adeilad lle y gall pobl fwynhau’r olygfa a’r safle o gwmpas.
-
1 gardd is sy’n 1.5 erw o ran maint a choetir bach sy’n cynnwys twnnel polythen, lle eistedd a safle barbiciw.
Lleoliad a mwynderau
Rydym wedi ein lleoli 6 Munud o Bentref hardd Corris, sy’n cynnwys swyddfa bost, tafarn, caffi, siop Idris lle y gallwch brynu nwyddau groser, ac mae Machynlleth 10 munud i ffwrdd mewn car os hoffech fanteisio ar fwynderau eraill fel peiriant arian parod, canolfan hamdden, siopau crefft ac ati.
Yn anffodus, nid yw ein hadeilad yn cynnig mynediad i bobl mewn cadair olwyn ar hyn o bryd. A fyddech gystal ag ystyried hyn os byddwch yn cael anawsterau wrth gael mynediad i’r tŷ oherwydd grisiau, gan nad oes lifft.
CONTACT US
Braich Goch Inn and Bunkhouse, Corris, Machynlleth, Wales, SY20 9RD