top of page

Staff

maria.jpg

María de la Pava

Mae gan Maria dros 20 mlynedd  o brofiad o weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol ac unigolion yn y DU yn ogystal â Cholombia a Jamaica. Mae’n gyd-sefydlydd Caisa Maloka (centro de accion, investigación social, agroecologica) sydd wedi ei leoli mewn pentref bach ym mynyddoedd De Orllewin Colombia. Symudodd i’r DU yn 2016 i gynorthwyo gyda datblygiad canolfan Braich Goch. Ar hyn o bryd, mae’n astudio Llysieuaeth Glinigol yn rhan amser ac mae’n credu’n gryf ym mhwerau iachau planhigion a’r wybodaeth gyndeidiol ddyrchafol a ddelir ac a ymarferir gan lawer o gymunedau yn Ne’r Byd. Ei breuddwyd yw dychwelyd i Golombia i ddysgu oddi wrth y cymunedau hyn a sefydlu clinig llysieuol sy’n cefnogi cymunedau campesino i gyrchu ac ailgysylltu â’r wybodaeth a’r ymarfer cyndeidiol hyn.

lita.JPG

Lita Wallis

Bu Lita yn gweithio yn y gymuned gydag oedolion a phobl ifanc yn Llundain am wyth mlynedd. Daeth â grŵp o bobl ifanc i aros ym Mraich Goch yn 2019 a syrthio mewn cariad â’r lle. Cymaint felly, gofynnodd am gael dod yn ôl fel gwirfoddolwr. Yn ystod Gwanwyn 2021 symudodd i Gorris ac ymuno â’r tîm.  Mae hi wedi ymrwymo i egwyddorion Addysg Boblogaidd a dysgodd am Ymchwil Gweithredu Cyfranogol wrth weithio mewn sefydliad cydweithredol yn Brixton yn 2015. Ers hynny mae wedi ymarfer Ymchwil Gweithredu Cyfranogol gydag oedolion a phobl ifanc mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd yn y DU a thros y môr. Yn ogystal â gweithio yn y gymuned mae Lita wedi bod yn rhan o symudiadau gweithredu uniongyrchol ar gyfer tai a mudo. Mae hi’n un o sylfaenwyr The Hologram, rhwydwaith rhyngwladol o bobl sy’n dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o gefnogi ei gilydd tra bod cyfalafiaeth yn dod i ben.

javi.JPG

Javier Sánchez-Rodríguez

Ganwyd Javier Sanchez-Rodriguez yn yr Andes yn Ne Ganol Colombia i deulu gwerinol. Mae’n weithredwr gwleidyddol ac yn ymchwilydd gweithredu cyfranogol. Ar ôl y profiad o orfod mudo i’r DU yn ei arddegau canol, astudiodd theatr, dawns, cerdd ac anthropoleg yn Llundain lle bu’n byw am 12 mlynedd.  Mae’n gyd-sylfaenydd CAISAMALOKA - Canolfan Gweithredu Cymdeithasol ac Ymchwil  Amaeth-ecolegol Maloka yng nghefn gwlad de orllewin Colombia. Mae hefyd yn Gyd-sylfaenydd a chydlynydd Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Braich Goch, a newidiodd yn ddiweddar i fod yn Ymddiriedolaeth Anne Matthews, canolfan adnoddau a dysgu beirniadol yng Nghanolbarth Cymru.  Mae Javier wedi gweithio’n eang gyda chymunedau sydd wedi’i gorthrymu yng Ngholombia, Jamaica, a nifer o ddinasoedd yn y DU gan gynnwys: Hull, Leeds, Middlesbrough a Llundain.   Trwy ddefnyddio dulliau ac athroniaethau addysgeg poblogaidd a beirniadol, mae Javier wedi cefnogi datblygiad sefydliadau a arweinir gan y gymuned, yn cynnwys pobl o gefndiroedd gwerinol, ffoadurol a mudol. Mae’n defnyddio theatr, dawns, cerdd a ffilm gyfranogol fel offer ar gyfer dathlu, ymholi a lledaenu, gan annog pobl i feddwl yn feirniadol am eu sefyllfa uniongyrchol er mwyn creu cynlluniau gweithredu ar y cyd i geisio sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol.

Jeanette.png

Jeanette Gray

Cafodd Jeanette ei geni a’i magu yn Nwyrain Lothian yn yr Alban. Ar ôl astudio Anthropoleg Gymdeithasol ym Mhrifysgol Caeredin a gweithio fel gweithiwr cymorth gydag oedolion â gwahaniaethau dysgu a phobl ddigartref, dilynodd yrfa fel cogydd.   Gan arbenigo mewn arlwyo ar raddfa fawr, roedd yn brif gogydd a rheolwr cegin mewn canolfan encilio brysur cyn symud i Ganolbarth Cymru.  Dechreuodd ymwneud â Braich Goch yn 2020, gan helpu i goginio cludfwyd yn seiliedig ar roddion ar gyfer y gymuned leol yn ystod y clo mawr, a chynnig cefnogaeth gydag interniaeth ddigwyddiadau. Hyfforddodd Jeanette hefyd fel gwneuthurwr basgedi, ac mae’n gweithio ar ei liwt ei hunan yn cynnig gweithdai mewn gwehyddu gyda deunyddiau gwyllt, y mae’n eu darparu ar gyfer grwpiau sy’n ymweld â Braich Goch.

Interniaid - gwirfoddolwyr

Rolando.jpg

Rolando Bertrand

Ganwyd Rolando yn, Nicaragwa. Astudiodd y gyfraith yn Universidad de Managua (UdeM) o 2014 tan 2018. Ar ôl graddio o ysgol y gyfraith ymunodd â’r protestio yn erbyn unbennaeth Daniel Ortega a orchymynnodd ei luoedd gormesgar i aflonyddu, carcharu, arteithio a hyd yn oed lladd y protestwyr. Am y rheswm hwnnw, alltudiodd ei hun i Brydain yn 2019. Rhwng 2019 a 2020 defnyddiodd ei arbenigedd yn y gyfraith i gefnogi a chynghori ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid eraill drwy wirfoddoli fel cynorthwyydd gweithiwr achos ghyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn Wrecsam. Yn dilyn seibiant hir oherwydd Covid yn 2020, yng ngwanwyn 2021, atgyfeiriwyd Rolando gan Lee Tiratira, prif gydlynydd Tîm Cefnogi Ethnig ac Ieuenctid gogledd Cymru i gymryd rhan fel intern yng Nghanolfan Ddysgu Beirniadol Corris, Machynlleth. Yno cafodd ei hyfforddi mewn technegau Ymchwil Gweithredu Cyfranogol ar gyfer trefnu cymunedol a hunan-gynaliadwyedd.

Board members

sara.JPG

Sarah Cox

Mae Sarah yn gyn-newyddiadurwr a golygydd papur newydd lleol, sydd bellach yn rheoli swyddfa wasg brysur gyda chyngor lleol.  Mae ganddi brofiad o ddatblygu a rheoli ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus rhagweithiol, cyfathrebu mewn argyfwng a gweithio gyda chyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol
A hithau’n nith i Anne Matthews, mae’n teimlo’n frwd dros gefnogi’r gwaith hanfodol a wneir ym Mraich Goch i ddarparu lleoliad ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfiawnder.
Mae’n mwynhau cerdded a llyfr da ac mae’n byw yn Suffolk gyda’i gŵr a’i dau o fechgyn bach (a thair cath).

Osian.jpg

Osian Morris

Ar ôl gadael ysgol, astudiodd Osian Ddiploma BTEC mewn Coedwigaeth a Chadwraeth.  Yna bu’n gweithio i gontractwr gwaith tir am bum mlynedd cyn cychwyn ei fusnes contractio ei hun yn 21 oed. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae ei fusnes yn dal i fynd ac mae’n cyflogi pedwar o weithwyr ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gerddor yn ei amser sbâr, yn chwarae gitâr acwstig a chyfansoddi caneuon Cymraeg.

lucy1.jpg

Lucy Pearson

Mae gan Lucy 20 mlynedd o brofiad fel Gweithiwr Cymunedol ac Ieuenctid yn Llundain, lle bu’n gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc o gefndiroedd ffoadurol a mudol, a phobl ifanc a effeithiwyd gan drais gan bobl ifanc.    
Mae hi’n adfocad angerddol dros Ymchwil Gweithredu Cyfranogol fel proses ar gyfer archwilio a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghyfiawnder.
Mae Lucy bellach yn byw yn y dref lle cafodd ei magu yng Nghernyw gyda’i theulu ifanc ac mae’n gweithio gyda phobl ifanc gan ddefnyddio Arferion Adferol i gryfhau cymunedau a mynd i’r afael â gwrthdaro a materion all niweidio hunaniaeth. 

Hinda.jpg

Hinda Mohamed

Mae Hinda Mohamed yn fenyw Somali-Brydeinig a chanddi fab 7 mlwydd oed o dras gymysg. Bu’n weithgar fel actifydd ers ei harddegau. Mae hi wedi cymryd rhan mewn ac wedi sefydlu nifer o brosiectau a sefydliadau ar gyfer pobl o gefndiroedd ffoadurol a mudol, nifer o’r rhai sy’n canolbwyntio ar gymunedau gwerin gwlad gan gynnwys pobl sydd wedi dioddef gormes hiliol, economaidd a strwythurol a mathau eraill o wahaniaethu. Mae ei phrofiad mewn datblygu cymunedol ac eiriolaeth drwy gelfyddydau creadigol, y cyfryngau a gweithio mewn strwythurau anhierarchaidd yn ymestyn dros 19 mlynedd. Hi yw sylfaenydd INTISAAR, sefydliad elusennol dielw sy’n cefnogi, ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl. Mae hi hefyd yn Gyd-sylfaenydd Sefydliad Sahra Guled a leolir yn Somalia. Ar hyn o bryd, mae’n astudio gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus Byd-eang a’i diddordeb yw Iechyd Meddwl a chyfleoedd llesiant sy’n ddiwylliannol briodol, a’i swydd bresennol yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau Iechyd. Mae egwyddorion Ymchwil Gweithredu Cyfranogol wedi llywio ei gwaith, ac mae'n credu yng ngallu pobl i gydweithio, dysgu trwy brofiad, myfyrio ar y profiadau hynny, plannu digon o hadau i newid y byd er gwell i bawb lle bynnag y ganed hwy.

jasber.jpg

Jasber Singh

Jasber has several years of experience designing, delivering and evaluating participatory action research projects on social and environmental justice at the local, national and international level. Jasber is currently a researcher and lecturer at the Centre for Agroecology, Water and Resilience, where he co-convenes a masters level module on participatory action research.  Jasber’s current research focuses on the ways in which the right to food, food sovereignty and environmental actions engages with race/caste-gender and more broadly, the politics of difference. He is also a trustee for Race on the Agenda, a national NGO which tackles racism and promotes equality, and an advisor the The Rights Collective.  
Before joining academia, Jasber worked as a youth worker, community-based researcher and as an advocate with environmental and social justice NGOs. Whilst working at race equality organisation in South London, he has used civil, legal, and restorative justice approaches to provide solidarity and support to people who experienced racist harassment and violence. He has also initiated actions against far-right activities, developed participatory action research with Black Minority and Ethnic communities, co-founded a refugee youth group in Woolwich South London, and challenged the hostile environment that migrants face by working in a team to establish a migrant rights advice project. In south India, working with two NGOs, he documented and challenged how racism/casteism undermined food, gender and land rights. 
Jasber enjoys being in nature, cycling around London, reading novels and non-fiction, listening to music, and is procrastinating but persisting with learning to read and write in Punjabi! 

bottom of page