Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn gasgliad o unigolion o gefndiroedd amrywiol sy’n gweithio i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. Ein nod yw helpu unigolion, grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gydweithio er mwyn trechu anghydraddoldeb, gwahaniaethu a gormes a’r effaith a gânt. Rydym wedi ymrwymo’n benodol i weithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd ffoadurol a mudol, gan eu cynorthwyo i ddatblygu rhwydweithiau, cyrchu cyfleoedd, a rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt i’w galluogi i fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau a wynebant.
​
Rydym wedi ein lleoli yng Ngwesty a Byncws Braich Goch, adeilad 450 mlwydd oed ym mhentref Corris, ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri ger Machynlleth, Canolbarth Cymru.
O’r lleoliad hwn rydym yn rhedeg Byncws a Hwb Cymunedol ac yn cynnig Datblygiad Arweinyddiaeth Ieuenctid.