MEITHRIN GALLU
Ein Hinterniaethau
Ar gyfer oedolion ifanc sy’n aros am loches yng Nghymru ac y mae’r gyfraith yn eu gwahardd rhag manteisio ar addysg neu gyflogaeth. Mae ein hinterniaethau wedi’u teilwra i ganlyn sgiliau, angerdd a diddordebau pob intern, ac maent yn cynnwys y dewis o gael hyfforddiant mewn: tyfu bwyd, rheoli digwyddiadau, gwaith bar, cynnal, hwyluso, arlwyo a hyfforddiant achrededig mewn bwyd a hylendid
Ein sesiynau Hyfforddiant Untro
Gellir archebu aelodau o’n tîm i rannu eu harbenigedd yn ystod gweithdai untro am ein methodoleg, er enghraifft Ymchwil mewn Gweithredu Cyfranogol, Theatr / Theatr y Gorthrymedig neu Agroecoleg.
Ein Rhaglenni Mewnol
Yn brofiadau addysg poblogaidd a gynhelir gan ein tîm, ar gyfer pobl y byddwn yn eu gwahodd i ymuno â ni, megis Walking the Walk (blwyddyn o gynnull meddyliau er mwyn ail-ddychmygu ein ffyrdd o fod a ffyrdd o wneud gwaith yn y gymuned) a Hyfforddiant Getaway (blwyddyn o hyfforddiant mewn cynnal preswyliadau, i arweinwyr ifanc sy’n gweithio yn eu cymunedau.)
Ein Gwaith Ymgynghori
Rydym yn cynnig gweithdai datblygu arweinyddiaeth pwrpasol dros y tymor hwy i sefydliadau hen a newydd, yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Fel arfer, bydd hwn yn gyfuniad o sesiyau ar-lein a rhai preswyl, sy’n cynnwys hyfforddiant am ein dulliau, a chan gynorthwyo sefydliadau gyda pha bynnag anghenion sydd ganddynt yn yr eiliad honno.
Ein nod yw rhannu’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o’r daith yr ydym wedi bod arni a’r sgiliau yr ydym wedi’u meithrin dros y blynyddoedd er mwyn cael effaith grychdonnol ar draws cenedlaethau yn y DU.
Trwy ein gwaith Meithrin Gallu, rydym yn cynnig lleoedd i unigolion a sefydliadau feithrin neu adfer eu hyder, a datblygu eu sgiliau ar gyfer newid trawsffurfiol, ar sail eu talentau a’r hyn y maent yn teimlo’n angerddol amdano.
Sut ydym yn gwneud hyn? Mae ein hinterniaethau , rhaglenni mewnol, sesiynau hyfforddiant untro a gwaith ymgynghori.
​
Nod ein gwaith Meithrin Gallu yw creu rhwydwaith o bobl wedi’u hyfforddi i weithio yma ym Mraich Goch, yn ogystal ag yn eu sefydliadau eu hunain yn y DU neu’n Rhyngwladol.
​
Bydd pobl sy’n ymuno â ni ar y teithiau hyn yn meithrin perthnasoedd gyda ni a gyda’i gilydd, sy’n cryfhau ein hymddiriedaeth, ein rhyngddibyniaeth a’n grym ar lefel llawr gwlad.
​
Mae incwm a gaiff ei greu o’n gwaith hyfforddiant ac ymgynghori yn golygu ein bod yn gallu rhannu ein gwybodaeth gyda phobl a sefydliadau nad ydynt yn gallu talu.
​
Os hoffech gysylltu â ni ynghylch archebu rhywfaint o hyfforddiant neu waith ymgynghori, neu i ymuno â’n rhaglenni mewnol neu’n hinterneiaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r dudalen gyswllt.
CONTACT US
Braich Goch Inn and Bunkhouse, Corris, Machynlleth, Wales, SY20 9RD
​