top of page
The Braich Goch buiding

Y FRAICH GOCH

Gwelir y cofnod cyntaf o Dafarn Y Fraich Goch 450 mlynedd yn ôl.  Dros y canrifoedd, mae wedi cynnig lle i borthmyn, ffermwyr, cloddwyr, perchnogion cloddfeydd, aelodau’r teulu brenhinol, cerddwyr, beicwyr, digwyddiadau lleol a ni yw’r rhai diweddaraf i ofalu amdano, gan agor ei ddrysau a’i erddi i bawb, ond yn enwedig fel cartref oddi cartref i’r rhai o gefndir mudol a ffoaduriaid, y gallent ei chael hi’n anos nac eraill i fanteisio ar hud a harddwch cefn gwlad Cymru. 

​

Rydym yn ystyried ein rôl fel stiwardiaid yr adeilad hwn o ddifrif.  Ers i ni brynu’r Fraich Goch yn 2016, rydym wedi ei drawsnewid yn ased cymunedol, fel na fydd byth yn berchen i unigolyn fyth eto, a gall fod yn adnodd sydd ar gael i’r cymunedau y mae ei angen arnynt.  Rydym wedi buddsoddi dros £120,000 mewn gwaith adnewyddu a thrwsio, ac oriau di-rif o lanhau, trwsio, garddio, paentio a chynnal a chadw er mwyn cadw’r adeilad yn gynnes, yn ddiogel ac yn sych, gan edrych mor brydferth ag y gall.  Rydym yn gwneud cais am gyllid pellach ar hyn o bryd i adnewyddu’r adeilad y tu mewn a’r tu allan.

​

Os ydych chi’n lleol ac mae gennych chi straeon am y Fraich Goch, cysylltwch â ni, hoffem glywed gennych, er mwyn cadw hanes y lle yn fyw!

​

Yn ogystal â’n cyfleuster llogi hostel arferol, mae’r Fraich Goch ar gael i’w llogi i unigolion a sefydliadau hefyd.  Os ydych chi’n bwriadu cynnal parti, digwyddiad gwaith neu weithdy, gallwch archebu ein bar trwyddedig llawn a’n lle cynnal digwyddiadau, ein cegin o safon masnachol, a’n hystafell fyw gysurus a’n lle bwyta.  Trowch at ein tab Archebu lle yn y byncws a llogi'r lleoliad am ragor o wybodaeth.

​

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu syniadau ynghylch sut i gefnogi’r Fraich Goch, neu os oes gennych chi ymholiad am gynnal digwyddiad yma, cysylltwch â ni trwy ein ffurflen gyswllt isod.

CONTACT US

Braich Goch Inn and Bunkhouse, Corris, Machynlleth, Wales, SY20 9RD

info@theannematthewstrust.org

01654761256

PayPal ButtonPayPal Button

Thanks for submitting!

bottom of page