top of page
IMG_5882.JPG.jpg

Ein hamcanion a’n gwerthoedd

Gwerthoedd, egwyddorion a methodoleg

Mae egwyddorion Ymchwil Gweithredu Cyfranogol yn sail i’n gwaith. Mae cymunedau ymylol yn archwilio materion sy’n effeithio arnynt, gan ddadansoddi eu profiadau eu hunain a chynhyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd, y gallant weithredu arnynt er mwyn creu newid.  Rydym wedi darganfod bod hwn yn ddull gweithredu pwerus ac effeithiol, sy’n arwain at newid ar lefel unigol, grŵp, cymuned a pholisi. Rydym wedi gweld bod profiadau preswyl yn cynnig ffyrdd trawsnewidiol i bobl ddod at ei gilydd, adeiladu a chryfhau perthnasau, llunio cynlluniau gweithredu a chael profiadau newydd, gan ddefnyddio modelau cyfoedion i gyfoedion a chyfranogol i sicrhau newid.  Mae celf, bwyd, adeiladu perthnasau a methodolegau cyfranogol yn rhai o’r arfau a ddefnyddiwn yn ein gwaith. Trwy fod gyda’n gilydd mewn sefyllfa breswyl mae pobl yn rhannu’r un profiadau. Rydym yn coginio, bwyta, drymio, dawnsio, chwarae, canu, rhannu, archwilio a chreu gyda’n gilydd - yn adennill ein dyngarwch a’n hurddas, yn dathlu ein gwahaniaethau, yn dysgu wrth, ac yn gofalu am ein gilydd.

​

​Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad gwrth-hiliol, gwrth-rywiaethol, a sefydlwyd ac a reolir ac a sbardunir gan bobl o Affrica, America Ladin ac Asia. Mae’r rheiny o’n hymddiriedolwyr/cydweithwyr sy’n Brydeinwyr gwyn wedi ymrwymo i wrth-hiliaeth ac maent yn ymwybodol iawn o’u croen gwyn a’r breintiau sydd ynghlwm â hynny. Maent wedi ymrwymo i gefnogi arweinyddiaeth y rhai hynny ohonom sydd wedi ein hymyleiddo fwyaf oherwydd lliw ein croen a’n rhyw.
 

Y cymunedau a wasanaethir gennym

Rydym yn bodoli yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl, er budd pobl o gefndiroedd ffoadurol a mudol. Nid ydym yn holi’r bobl sy’n cymryd rhan yn ein prosiectau ynghylch eu statws mewnfudo. Gwyddom fod gan y rhan fwyaf o’r bobl sy’n dod ar ein rhaglenni naill ai statws ffoadur neu maent yn ceisio lloches oherwydd rydym yn gweithio gyda sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan ac ar gyfer pobl sy’n perthyn i’r categorïau hyn. A byddant yn aml yn cael eu hatgyfeirio gan gyrff llywodraethol megis Cyngor y Ffoaduriaid, y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu a hyd yn oed y Swyddfa Gartref.  Mae’r sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda hwy yn cynnwys:  Refugee Youth; NOMAD (Nation of Migration Awakening the Diaspora), Solidarity Hull, EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig) a’r teuluoedd o Syria sydd newydd gyrraedd  Y Drenewydd, a daeth atom drwy Brosiect Gateway y Swyddfa Gartref.

Anghenion ein cymunedau

Mae pobl o gefndiroedd ffoadurol a mudol yn profi anfanteision mewn nifer o ffyrdd cysylltiedig. Mae gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol, colli rhwydweithiau cymunedol a theuluol a systemau mewnfudo a lloches cosbol y DU a’u ‘hamgylchedd gelyniaethus’ yn arwain at dlodi, diffyg cyfleoedd/mynediad at adnoddau ac anawsterau iechyd meddwl.

​

Gall y profiad o geisio lloches fod cynddrwg â’r sefyllfaoedd y mae pobl yn ffoi rhagddynt, neu gall fod y catalydd o ran pobl yn dioddef mwy o artaith feddyliol ac emosiynol. Cyfnod o limbo ac ansicrwydd; pobl yn cael eu labelu a’u hecsbloetio, yn dioddef casineb, yn wynebu senoffobia ac yn cael eu bygwth ag  alltudiaeth. Oriau hir o gyfweliadau  annynol a bygythiol gan y Swyddfa Gartref, cael eu cwestiynu am yr un peth mewn nifer o wahanol ffyrdd a theimlo nad yw’r swyddogion yn eu credu, ail-ddioddef y trawma trwy orfod adrodd eu stori drosodd a throsodd. Mae hyn oll yn niweidiol i’w cyflwr meddwl, yn creu dicter ac anobaith a theimlad gwirioneddol o unigedd, ac rydym yn adnabod llawer o bobl sy’n dal i fyw'r bywydau annynol a thorcalonnus hyn nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach.

 

Yn ogystal, yn aml gall pobl ifanc sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru fod yn unig a dioddef anfanteision economaidd, heb fawr o gyfleoedd i gysylltu â chymunedau amrywiol. Gall yr amgylchiadau hyn arwain at gamddealltwriaeth a chwilio am fwch dihangol. Mae pedair o ddinasoedd Cymru ymhlith ardaloedd gwasgaru’r DU sydd â’r nifer uchaf o bobl yn ceisio lloches fesul pen o’r boblogaeth. Mae hyn wedi gosod straen pellach ar yr awdurdodau lleol hyn sydd eisoes yn brin o adnoddau. Mae hyn wedi arwain at ddrwgdeimlad o fewn cymunedau, sydd wedi ei waethygu gan siarad cenedlaetholgar a gwrth-fewnfudo. Mae data’r Swyddfa Gartref yn dangos cynnydd o 22% mewn troseddau casineb yng Nghymru ers y refferendwm ar Brexit ym Mehefin 2016.

 

Wrth weithio yng nghefn gwlad Cymru rydym yn gyson yn gorfod mynd i’r afael â materion croestoriadol megis hil, dosbarth a rhyw o fewn ein gwaith, ac rydym yn dysgu llawer yn sgil  hyn.  Yn aml, ni yw’r unig bobl o liw, ac o’r safbwynt hynny, gall fod yn heriol cynnal perthynas a deialog gyda’n cymuned leol, sy’n cynnwys yn bennaf bobl wen dosbarth canol rhyddfrydol/blaengar sydd wedi mudo o Loegr, a’r gymuned Gymraeg dosbarth gweithiol wen gynhenid. Ac mae agendor mawr yn bodoli rhwng y ddau.
​
Hyd yn oed cyn y pandemig Covid-19, roedd y bobl a’r cymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw yn profi’r heriau canlynol:

  • Cyflogaeth ansicr neu ddiweithdra

  • Tai gwael neu ddigartrefedd

  • Anhawster o ran cael budd-daliadau a chymorth, naill ai oherwydd diffyg cymhwyster neu ddiffyg gwybodaeth am hawliau a mynediad  

  • Anawsterau o ran cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd a chymorth oherwydd eu statws fel mewnfudwyr

  • Eisoes yn byw mewn tlodi, a heb unrhyw gynilion na sicrwydd ariannol.

​

​Mae’r holl bethau hyn wedi gwaethygu'n ddifrifol yn sgil y pandemig, a bydd yr effeithiau hirdymor yn cael eu teimlo am fisoedd os nad blynyddoedd gan y cymunedau yr ydym ni yn bodoli i’w gwasanaethu.
 

DSC_1156_Fotor.jpg
IMG-20180730-WA0005_Fotor.jpg
IMG-20190417-WA0054_Fotor.jpg
bottom of page