GOLWG RYNGWLADOL
Rydym yn ymwybodol o’r ffaith bod y breintiau yr ydym yn eu profi ac yn gallu eu rhannu yma yng Nghymru, o ganlyniad i agendâu ymerodrol y gorffennol a’r presennol yn ne’r byd.
​
O’r herwydd, rydym wedi ymrwymo i feddu ar ymagwedd gydwladolaidd yn ein gwaith. Ein nod dros y tymor hir yw meithrin a bod yn rhan o rwydwaith o sefydliadau, yn y DU ac ar draws y byd, sy’n gweithio tuag at nodau tebyg cyfiawnder ar gyfer ein planed a’i phobl.
​
Rydym yn dymuno i’n gwaith yn y DU gynnig budd i bobl sy’n gweithio ar lawr gwlad ar draws de’r byd hefyd, ond nid ydym yn dymuno llithro i ddeinameg grym tadol yn ein gwaith rhyngwladol yn fwy nag yr ydym yn dymuno ei wneud wrth weithio gyda phobl yn y DU.
​
Am y rheswm hwn, rydym yn gweithio ar ein polisïau a’n harferion ar sail cysyniad gwneud iawn ar lawr gwlad, a meithrin economïau undod gyda phobl o’r un bryd ar draws y byd.
​
Gallwch ddarllen ein hadroddiad o’n taith maes i Golombia yn 2023.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn yr ydym yn ei olygu pan fyddwn yn sôn am wneud iawn ar lawr gwlad yma (hyperlink to Appendix 1 of the report)
​
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gefnogi ein Golwg Ryngwladol, cysylltwch â ni trwy ein Ffurflen Gyswllt.
CONTACT US
Braich Goch Inn and Bunkhouse, Corris, Machynlleth, Wales, SY20 9RD
01654761256