Chwiorydd yn Hau Hadau Gwrthsafiad
“Os oes unrhyw fenyw’n teimlo bod angen unrhyw beth y tu allan iddi hi ei hun i gyfreithloni neu ddilysu ei bodolaeth, mae hi eisoes wedi ildio ei phŵer i ddiffinio ei hun, ei galluedd”
-Bell Hooks
Mae angen mannau diogel ar fenywod i ymlacio ac adfer, i fod gyda’i gilydd unwaith eto, a chreu cefnogaeth chwaerol. Dyma pam yr ydym eisiau hyrwyddo Braich Goch felo lloches lle gall menywod, yn enwedig rhai o gefndiroedd ffoadurol a mudol, roi’r gorau i fod yn ofalwyr a mwynhau profiad newydd, rhannu lle ac amser gyda menywod eraill, mwynhau teithiau cerdded gwledig, coginio gyda’i gilydd, chwarae, rhannu straeon, iachau ac adfer ein dyngarwch.
​​
O ddyddiau’r helfeydd gwrachod tan heddiw a’r ymgyrchoedd #MeToo, yr argyfwng ffoaduriaid byd-eang, y dioddefwyr caethwasiaeth rhyw a’r cynnydd mewn troseddau casineb yn sgil Brexit. Rydym yn parhau i gael ein gormesu a’n cam-drin yn systematig, gan alluogi a chynnal y dull cyfalafol o gynhyrchu sydd mewn grym.
Mae menywod a phlant ar draws y byd yn dioddef oherwydd rhyfel a phob dydd mae merched a menywod yn wynebu camdriniaeth rhyw nad yw’n cael ei herio – ymddygiad sydd yn aml yn cael ei ystyried fel ‘y norm’.
Ar gyfer pwy mae hwn?
​
Rydym am sicrhau bod Braich Goch ar gael i fenywod na fyddent fel arfer yn gallu cael mynediad i’r mannau hyn oherwydd rhwystrau economaidd, diwylliannol neu ieithyddol.
​
Rydym am gefnogi menywod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn enwedig y rheiny sydd wedi eu halltudio, eu hynysu, eu cam-drin a/neu eu gormesu. Rydym hefyd am gynorthwyo menywod sy’n barod i rannu a chydweithio er mwyn grymuso a chefnogi ei gilydd i herio systemau gormesol, y menywod hynny nad ydynt yn arwain y drafodaeth ac sydd yn aml yn cael eu gadael allan o sgyrsiau allweddol a phwysig.
Beth rydym yn ei wneud a sut y gall menywod elwa
​
Mae’r lloches/man preswyl yn gartref oddi cartref lle gall menywod brofi rhywbeth gwahanol i’w bywydau pob dydd arferol.
​
-
Mae rhannu ystafelloedd byw, coginio, teithiau cerdded yn yr awyr agored a gofalu am ei gilydd yn creu awyrgylch o berthyn, dysgu a hunan-rymuso.
​
-
Rydym yn defnyddio cylchoedd merched lle gallwn ddod i adnabod ein gilydd mewn ffordd hwylus ac anffurfiol. Rydym yn defnyddio symudiad a llais i rannu agweddau ohonom ni ein hunain, gan greu cysylltiadau, cyfeillgarwch a strategaethau ymdopi.
​
-
Rydym yn defnyddio celf a mapio’r corff i lunio a myfyrio ar ein teithiau trwy fywyd hyd yn hyn. Mae hyn yn mapio ein gwreiddiau, sgiliau, cyraeddiadau, breuddwydion a’n gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’n offeryn pwerus ar gyfer adlewyrchu ar a dathlu ein bywyd, ein gwahaniaethau a’n nodweddion cyffredin; gall hyn fod yn broses gyfunol a grymusol iawn. Gallwn ddechrau gweld ein hunain fel yr ydym mewn gwirionedd, ac nid sut yr ydym yn cael ein portreadu gan gymdeithas neu ar sail ein rolau.
-
Ar gyfer gwaith mwy strwythuredig rydym yn defnyddio theatr i archwilio’r materion sy’n cael yr effaith fwyaf arnom, i ddeall sut yr ydym yn dioddef gormes a gwahaniaethu systematig ac i adnabod y pŵer sydd gennym i herio’r agweddau negatif hynny. Defnyddiwn theatr fel llwyfan i archwilio’r syniadau hyn ar y cyd. Gellir cyflwyno’r sgetshis hyn i gynulleidfaoedd gan ddefnyddio theatr fforwm. Mae hyn eu cynnwys trwy eu gwahodd i gerdded yn esgidiau’r prif gymeriad, gan roi cipolwg iddynt o realiti pobl eraill, a chreu empathi a dealltwriaeth.
​
-
Rydym wedi canfod bod hyn ein cynorthwyo ac yn ein hysbrydoli i herio dynion, cymdeithas, llunwyr polisïau a ni ein hunain yn gyffredinol, yn ogystal â chwestiynu’r sefyllfa sydd ohoni a deall ac enwi’r gelyn cyffredin.
​
-
Gall menywod wella’u sgiliau, grymuso eu hunain trwy rannu mewn gofod myfyriol a dysgu i enwi, nodi a herio ymddygiad gormesol.
CYSWLLT
Braich Goch Inn a Bunkhouse, Corris, Machynlleth, Wales, SY20 9RD
01654761256