top of page

Cnoi Cil

Man lle mae pobl na fyddent fel arall yn cyfarfod, yn cael sgyrsiau na fyddent fel arall yn eu cael...

Mae CNOI CIL yn gyfres o ddigwyddiadau misol a gynhaliwyd ym Mraich Goch yn ystod hydref a gaeaf 2021. Ynghyd â’n swyddogion preswyl gwych – tri oedolyn ifanc o gymunedau alltud yn Wrecsam – rydym yn gweithio fel tîm i drefnu 4 digwyddiad fydd yn archwilio ein perthynas â thir ac â’n gilydd trwy fwyd.

 

Yn anffodus cafodd ein digwyddiad diwethaf ei ganslo oherwydd covid. Edrychwch ar ein diweddariad fideo isod:

Food for Thoughts Event Series

Food for Thoughts Event Series

Play Video

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu i sicrhau bod Cyfres Digwyddiadau Cnoi Cil yn digwydd.

  • Ein gwirfoddolwyr yn y bar a’r gegin

  • Y siaradwyr yn ein hail ddigwyddiad - Jâms Morgan, Ioan Beechey, Theresa Jones a Gareth Davies.

  • Y perfformwyr: Cynefin ac Osian Morris.

  • Kait Leonard am hwyluso ein panel.

  • Y ffrindiau o gymunedau a ddadleolir a gwasgarog a ychwanegodd eu lleisiau at y trydydd digwyddiad.

IMG-20210923-WA0000.jpg

Digwyddiad 1

Maeth i'r Meddwl/ Harvest Celebration!

Yn ein digwyddiad cyntaf, buom yn dathlu’r cynhaeaf. Roedd yn gyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd ac i ofyn y cwestiwn syml “Beth y mae tyfu bwyd yn ei olygu i mi?”

 

Cawsom bryd blasus o fwyd wedi ei goginio gan ddefnyddio cynnyrch a roddwyd yn lleol a buom yn gwylio rhaglen ddogfen fer i helpu i gychwyn y sgwrs. Yna rhannom yn grwpiau i drafod pa bryderon yn ymwneud â bwyd oedd yn bwysig i’r bobl yn yr ystafell.  Cyfunwyd y syniadau hyn a’i defnyddio’n sail ar gyfer ein digwyddiadau canlynol.

Digwyddiad 2

Maeth i'r Meddwl/ The Welsh Context

Roedd ein hail ddigwyddiad yn gyfle i glywed wrth gynhyrchwyr bwyd lleol am y materion sy’n wynebu ffermio yng Nghanolbarth Cymru yn 2021. Gwahoddwyd panel o bobl sy’n ymwneud â bwyd a choedwigaeth i rannu gyda ni, gan drafod pynciau megis effaith Brexit ar y diwydiant bwyd lleol, pa bolisïau sydd angen eu newid i wella amodau a refeniw, materion cenedliadol ac etifeddiaeth, a’r argyfwng iechyd meddwl mewn ffermio.

IMG_20211030_195334.jpg
IMG-20211202-WA0002.jpg

Digwyddiad 3 

Maeth i'r Meddwl/ Food Journeys and Migration

Mae bwyd yn symud ar draws ffiniau yn rhwydd, ond nid felly pobl. Pam?

Rydym yn byw mewn byd lle mae technoleg yn ein cysylltu ni i gyd. Fodd bynnag, mae’r  cysylltedd hwn yn arwynebol gan na all y mwyafrif o bobl yn hanner de’r byd groesi ffiniau heb fisas, tra bod y bwyd a gynhyrchir yn medru.

 

Roedd y trydydd yn ein cyfres o ddigwyddiadau yn edrych ar y daith fudo a gymerwyd gennym. Roeddem ni, pobl o gefndiroedd ffoadurol a mudol, sydd wedi dod i Gymru, yn awyddus i archwilio ar y cyd â’n cymuned leol, y profiad o ymfudo o’n safbwynt ni: sut y gwelir ni, y stereoteipiau sy’n gysylltiedig â’n profiadau amrywiol a sut y gallwn ddatgyfrinio’r rhain gyda’n gilydd trwy ddeialog wrth rannu ein bwyd, ein cerddoriaeth a’n diwylliannau.  

 

Defnyddiwyd technegau ‘theatr anweledig’ i ymdrochi ein gwesteion mewn dealltwriaeth emosiynol o’r Amgylchedd Gelyniaethus. Yna rhannodd y rhai hynny ohonom o gefndiroedd alltud a gwasgarog ein teimladau a’n profiadau gyda’r grŵp cyn symud ymlaen i ddathlu bwyd a cherddoriaeth America Ladin.

bottom of page